Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Covid Hir ar 16 Mawrth 2023
Yn bresennol:
Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
Rhys Hughes
Alexander Still
Georgia Walby
Sian Davies
Kathryn Tancock
Dr Ian Frayling
Yr Athro Alison Twycross
Debbie Shaffer
Dr Paul Gill
Dr Nicola Gale
Rhianydd Williams
Helen Radford
Brandon Renard
Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS.
Agenda
1. Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau.
2. Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod diwethaf.
3. Cyflwyniad Treialon Ocsigen Hyperbarig
4. Trafodaeth ar brofiadau cleifion o Therapi Ocsigen
5. Diweddariad gan TUC Cymru ar eu gwaith diweddar ar Covid Hir.
6. Camau gweithredu y cytunir arnynt a dyddiad y cyfarfod nesaf
7. Diwedd
Cyfarfod
Aeth y cyfarfod yn ei flaen yn unol â’r agenda uchod.
Cafwyd y cyflwyniad cyntaf ar dreialon ocsigen hyberbarig gan Dr Nicola Gale, Prifysgol Caerdydd, a Dr Paul Gill, Prifysgol Northumbria yn Newcastle. Cafwyd yr ail gyflwyniad gan Rhianydd Williams, Swyddog Cydraddoldeb a Pholisi, TUC Cymru.
Bu’r Grŵp hefyd yn trafod y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ragor o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Adferiad yn sgil Covid Hir.
Camau y cytunwyd arnynt
1. Rhun ap Iorwerth AS a Hefin David AS i gyflwyno Datganiad Barn Ysgrifenedig i nodi Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth o COVID Hir 2023.
2. Rhun ap Iorwerth AS a Hefin David AS i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn pa gymorth sydd ar gael ar gyfer rhagor o ymchwil i driniaethau COVID arloesol; yn ogystal â gofyn beth yw'r sail dystiolaeth ar gyfer ehangu cymhwysedd am y rhaglen Adferiad i rai sydd â chyflyrau hirdymor eraill, er enghraifft ME/Syndrom Blinder Cronig (CFS) a ffibromyalgia.